Ein gwaith:
Elusen arloesol yw Touch Trust sy’n darparu sesiynau symudiad ac amlsynhwyraidd cynhwysol a chreadigol i oedolion a phlant sydd ag amrywiaeth o anghenion amlsynhwyraidd, anableddau dysgu ac anhwylderau yn y sbectrwm awtistig. Rydyn ni wedi ein lleoli yn adeilad eiconig Canolfan Mileniwm Cymru yng Nghaerdydd, ac mae ganddon ni ystafelloedd synhwyraidd a chyfarpar codi pwrpasol.
Mae ein gwaith unigryw, sy’n defnyddio dull o ganolbwyntio ar unigolion, yn sicrhau ein bod ni’n dathlu unigoliaeth ein gwesteion; ac yn hyrwyddo manteision corfforol, emosiynol a chymdeithasol ac ymdeimlad holistaidd o les. Mae ein sesiynau wedi helpu i roi gwên ar wynebau rhai o’r bobl fwyaf ynysig yn ein cymdeithas a’u helpu i gysylltu â’u hanwyliaid ar lefel ddyfnach.
Mae modd i’n sesiynau gael eu cynnal wyneb yn wyneb neu ar-lein, naill ai un-i-un neu mewn grŵp, ac maen nhw’n dilyn ein rhaglen Touch Trust drwyddedig. Rydyn ni’n gweithio gyda grwpiau ac unigolion o ganolfannau gofal dydd, cartrefi gofal, ysgolion arbennig, grwpiau chwarae ac elusennau eraill.
Yn ogystal â’n rhaglen Touch Trust drwyddedig, rydyn ni’n cynnal prosiectau celfyddydau cynhwysol.