Skip to main content

Sesiynau Touch Trust

Sefydlwyd Touch Trust yn 1996 a daeth yn elusen gofrestredig yn 2000. Roedd ein sylfaenydd, y ddiweddar Dilys Price OBE, yn arbenigwraig dawns a chelfyddyd symud a addysgwyd gan Rudolph Laban. Yn Touch Trust, rydyn ni’n edrych y tu hwnt i ddiagnosis rhywun ac yn dathlu’r pethau unigryw y gall ein gwesteion eu gwneud.

Mae rhaglen unigryw a thrwyddedig Dilys yn dilyn strwythur meddylgar gan gynnwys cyffwrdd/tylino ysgafn, technegau anadlu, cerddoriaeth, dawnsio, symud ac ymlacio. Mae sesiynau Touch Trust yn dilyn cromlin egni esmwyth, sy’n galluogi unigolion i brofi manteision amlsynhwyraidd ym mhob rhan. Nod ein sesiynau yw rhyddhau endorffinau, hyrwyddo ymwybyddiaeth dda o’r corff a gofod, meithrin hyder, annog cymryd troeon a chynyddu cysylltiadau cymdeithasol.

Mae’r rhaglen wedi’i strwythuro, sy’n werthfawr iawn i’n gwesteion sy’n gwerthfawrogi trefn benodol. Fodd bynnag, mae ein hwyluswyr creadigol wedi’u hyfforddi i weithio ochr yn ochr ag anghenion pob gwestai a byddan nhw’n gwneud newidiadau cadarnhaol lle bo angen er mwyn sicrhau bod gwesteion yn mwynhau eu sesiwn yn eu hamser eu hunain. Rydyn ni’n hyrwyddo dewis annibynnol a chanmol; mae pob sesiwn yn ddathliad!

Mae Touch Trust yn elusen sy’n canolbwyntio’n naturiol ar unigolion, sy’n ymwneud â’r ffordd y gallwn gyfathrebu heb siarad drwy ddefnyddio cyffyrddiadau cadarnhaol, cerddoriaeth a symud. Rydyn ni’n cynnal sesiynau Touch Trust yn wythnosol ar gyfer grwpiau ac unigolion yn rhithiol ac wyneb yn wyneb.

Prisiau:

Sesiwn Touch Trust Rithiol Un i Un (dros Zoom) – £40 am sesiwn awr o hyd

Sesiwn Touch Trust Rithiol Grŵp (dros Zoom) – £20 am sesiwn awr o hyd

Sesiwn Touch Trust Un i Un – £50 am sesiwn awr o hyd

Sesiwn Touch Trust Grŵp – £30 am sesiwn awr o hyd

Sesiwn Touch Trust Un i Un i bobl ifanc o dan 18 oed –  sesiwn am ddim