Geirdaon
Sesiynau Touch Trust
“Hoffai fy ngŵr a finnau nodi pa mor falch ydyn ni o ddatblygiad N yn Touch Trust. Mae ein amheuon gwreiddiol wedi’u bwrw o’r neilltu. Mae N yn cyrraedd adre wedi ymlacio, yn dderbyngar ac yn ferch fach hapus. Mae dydd Mercher yn binacl yr wythnos erbyn hyn, y diwrnod rydyn ni’n gwybod y bydd yn bwyta ac yn cysgu drwy’r nos. Wn i ddim sut mae’n gweithio ond mae hyn wedi bod yn gymorth mawr i’n plentyn.”
Adborth i Sesiwn Ar-lein
“Rydyn ni wedi bod yn ddigon ffodus i gadw mewn cysylltiad â chi ac wedi mwynhau’r sesiynau’n fawr. Diolch yn fawr i chi, mae pob un ohonoch chi’n seren ac rydych chi wedi rhoi gwên ar wyneb fy merch eleni.”
“Roedden ni’n gallu parhau i deimlo ysbryd sesiwn Touch Trust yn ein cartref ein hunan. Roedd fy mab yn ei chael hi’n anodd cysgu, ond rhoddodd ei ddwylo ei hunan ar ei frest a chanolbwyntio ar anadlu heb gael ei annog, yr un fath â’r sesiynau wyneb yn wyneb roedd yn arfer eu cael yn y ganolfan.”
