Skip to main content

Astudiaeth Achos: Marianne F

Mae’r tro cyntaf i fi fynychu Touch Trust gyda Marianne yn dal yn glir yn fy meddwl; roedd yn gymaint o bleser ei gweld yn ymgysylltu gyda’r gofod a’r arweinwyr sesiynau. Drwy gydol y flwyddyn, mae Marianne wedi ymateb yn well ac yn well i’r gwahanol weithgareddau yn ei sesiynau; mae’n canolbwyntio ar wahanol bethau ac yn gwneud dewisiadau clir. Mae ei gallu i ddeall bod yr hyn mae hi’n ei wneud yn creu ymatebion gan eraill, yn araf yn dechrau datblygu, ac rwy’n teimlo bod hyn wedi digwydd yn bennaf drwy gyfleoedd ac anogaeth a gafodd gan Touch Trust. Mae fel petai drws wedi’i agor yn rhywle a bod Marianne wedi sylweddoli ei bod wedi mynd drwyddo.” – Amanda Brown (Cyn ofalwr Marianne)

Llwyddiant:

Y tro cyntaf i Marianne ddod i Touch Trust oedd gyda’i dosbarth o Ysgol Tŷ Gwyn. Oherwydd y sesiwn grŵp, cyfyngwyd ar symudedd Marianne. Felly, ni ddechreuodd ei photensial ddatblygu go iawn tan i Marianne adael yr ysgol yn 19 oed a dechrau dod aton ni bedair gwaith yr wythnos. Mae bod mewn sesiwn un i un wedi ein galluogi i addasu’r sesiwn a’i theilwra’n organig yn ôl y newidiadau yn egni Marianne. Gall y newidiadau hyn fod yn ddramatig, o ddawnsio ac ymchwilio’r gofod i ymlacio a chysgu. Y pwyslais yw ‘lle mae Marianne yw’r lle iawn’. Mae wedi ymateb yn dda iawn i’r ymagwedd hon ac wrth iddi ddod i arfer â fformat y sesiwn, fe welson ni fod ei lefelau egni wedi dechrau dilyn rhai sesiwn Touch Trust, ac mae ei dealltwriaeth o’r hyn sy’n dod nesaf yn amlwg.

Ffocws:

Ar y dechrau, roedden ni’n ofalus iawn i symud unrhyw atyniadau posib o’r ystafell a dim ond dod â phethau i’r golwg pan oedd eu hangen. Yna’n raddol, wrth i Marianne ddod yn fwy cyfarwydd â’r rhaglen, roedden ni’n gadael pethau yn yr ystafell a doedd sylw Marianne ddim yn cael ei ddenu atyn nhw. Roedd hi’n canolbwyntio mwy ar y sesiwn ei hunan.

Hyder, Dewis a Gwneud Penderfyniadau:

Ar ôl mynychu Touch Trust bedair gwaith yr wythnos am dri mis, roedd dealltwriaeth Marianne o’r sesiwn yn cynyddu’n raddol ac felly ei hyder hefyd. Wrth i’r hyder yma ddechrau datblygu, roedd hi’n dechrau gwneud dewisiadau. Drwy gyfyngu ar y dewis a symleiddio’r sefyllfa, mae wedi’i hannog i wneud penderfyniad. Roedden ni’n dechrau drwy gynnig dewis o ddau offeryn ar ddechrau ac ar ddiwedd sesiwn. Pan oedd Marianne yn gallu dewis rhwng y rhain, roedden ni’n cyflwyno dewis o dri offeryn ar gyfer band taro – mae hyn yn rhoi cyfle iddi ddewis yr offeryn yr hoffai hi ei archwilio a chreu’r sesiwn o’i chwmpas hi. Mae llawer o ganmol ac anogaeth yn atgyfnerthu hyder Marianne.

Yn raddol, cyflwynwyd mwy o ddewisiadau gan gynnwys rhoi cyfle iddi ddewis y bêl glan-môr neu’r hwlahŵp yn ei hadran ‘ymarfer gyda ffocws pendant’ fel offeryn i ddatblygu ei symudiadau. Yn gynyddol, mae Marianne hefyd yn gwthio pethau i ffwrdd neu’n symud ei hunan oddi wrthyn nhw ac felly’n dangos pan fydd hi wedi cael digon ac yn barod i symud ymlaen.

Drwy wneud y dewisiadau a’r penderfyniadau yma, mae Marianne yn arwain ei sesiwn yn hyderus erbyn hyn ac yn creu sesiwn lle mae’n hapus ac yn ddiogel.

Hunan-fynegi a Chyfathrebu:

Bydd Marianne yn canu ac yn lleisio i ddangos pan fydd hi’n hapus. Yn yr un modd pan fydd hi’n anhapus, bydd yn gwneud synau anhapus. Dywedodd tad Marianne ei fod wrth ei fodd yn clywed y synau yma, hyd yn oed os mai rhai anhapus ydyn nhw gan fod hyn yn golygu bod Marianne yn dangos sut mae’n teimlo erbyn hyn, rhywbeth na allai ei wneud cyn dechrau dod i Touch Trust. Mae’n bosib mai’r gallu i fynegi ei hunan yw llwyddiant datblygiadol mwyaf Marianne.