Pwy rydyn ni’n eu cefnogi
Mae Touch Trust yn cefnogi cymuned o bobl sydd ag Anableddau Dysgu Dwys a Lluosog a’r rheini sydd ag anghenion synhwyraidd cymhleth fel Awtistiaeth.
Mae Anableddau Dysgu Dwys a Lluosog yn aml yn gysylltiedig ag Oedi mewn Datblygiad amlwg, sy’n achosi namau corfforol a synhwyraidd sylweddol ac Epilepsi. Bydd gan y rhan fwyaf o bobl sydd ag anableddau difrifol a lluosog anableddau corfforol a fyddan nhw ddim yn gallu cerdded. Mae’n bosib y bydd ganddyn nhw broblemau clywed a gweld. Byddan nhw’n cyfathrebu heb eiriau, hynny yw, fyddan nhw ddim yn siarad, neu byddan nhw’n defnyddio ychydig o eiriau’n unig. Gallai rhai ddefnyddio arwyddion neu symbolau i edrych a phwyntio at beth maen nhw ei eisiau.
Ar wahân i’w cymhlethdodau iechyd, y brif anfantais mae pobl ag Anableddau Dysgu Dwys a Lluosog yn ei hwynebu yw allgáu cymdeithasol. Mae’r allgáu yma wedi gwaethygu yn ystod y pandemig diweddar. Gall teuluoedd a gofalwyr deimlo bod gormod o risg yn gysylltiedig â mynd allan neu gymryd rhan mewn gweithgareddau oherwydd eu hiechyd, felly does ganddyn nhw mo’r un cyfleoedd ag unigolion heb anableddau. Mae’n anodd dod o hyd i weithgareddau y gallan nhw gymryd rhan yn ddiogel ynddyn nhw, sydd hefyd â’r un cyfleusterau angenrheidiol ar gyfer eu hanghenion dyddiol, er enghraifft cyfleusterau newid preifat a pheiriannau codi er mwyn iddyn nhw allu eistedd yn gyfforddus.
I lawer, mae eu namau corfforol yn gallu achosi i dasgau a gweithgareddau dyddiol fod yn heriol, sy’n achosi rhwystredigaeth sy’n gallu arwain at ymddygiad y byddai rhai yn ei weld fel ymddygiad heriol.
“O’r diwedd fachgen, rydyn ni wedi ffeindio rhywle i fynd.”
Mae hwn yn ddyfyniad gan dad a ddaeth i’n sesiynau, gan ddisgrifio’r rhyddhad ei fod wedi dod o hyd i rywle lle roedd ei fab ac yntau’n teimlo eu bod wedi’u cynnwys lle roedd cyfle i orffwys yng nghwmni ein haelodau o staff. O ganlyniad i gael eu hallgáu, yn aml iawn does gan bobl sydd ag Anableddau Dysgu Dwys a Lluosog ddim llawer iawn o ffrindiau y tu allan i’w teulu, ac mae eu bywyd yn gallu bod yn ynysig. Yn ardal y de-ddwyrain lle rydyn ni’n gweithredu, ychydig iawn o lefydd sydd ar gael lle gallan nhw chwarae’n ddiogel y tu allan i’w hysgolion, felly mae llawer o’n cyfranogwyr yn gorfod teithio rhwng awr ac awr a hanner o’u cartrefi.
“Mae pobl anabl yn dal i fod yn llawer llai tebygol o gymryd rhan mewn gweithgareddau diwylliannol, hamdden a chwaraeon na phobl nad ydyn nhw’n anabl” (Arolwg Cymryd Rhan 2011 i 2012).
Awgrymir bod diffyg dewis sylweddol ym maes dysgu pellach a dysgu gydol oes ar gyfer eu lles i’r dyfodol (Townsley 2013, 2014). Yn aml iawn, does gan ein mynychwyr ddim llawer o fodelau rôl o grwpiau anabl ac mae llawer yn profi gwahaniaethu neu wahaniaethu tybiedig. Mae rhai’n datblygu ymddygiadau heriol hirdymor a phroblemau ymddygiad eraill oherwydd diffyg cyfleoedd i hunan-fynegi.
“Mae bod â bywyd cymdeithasol bywiog yn gallu helpu pobl sydd ag anableddau dysgu i deimlo’n hapusach, ac i deimlo eu bod yn cael eu cynnwys a’u gwerthfawrogi” (Mason et al. 2013; Chadwick et al. 2014; Wilson et al., 2017)
Mae Touch Trust yn ymroddedig i gefnogi ein cymuned i gael mynediad at brofiadau celfyddydau creadigol cwbl gynhwysol i’n holl gyfranogwyr yng Nghymru a’r tu hwnt.