Skip to main content

Ein Prosiectau:

Mae Touch Trust wedi cael yr anrhydedd o weithio gyda llawer o sefydliadau celfyddydol arobryn er mwyn darparu prosiectau ar y cyd i’n gwesteion. Cliciwch isod i ddarllen rhagor am ein prosiectau ar y cyd diweddaraf.

Drwy gefnogaeth Plant mewn Angen y BBC, y Loteri Genedlaethol a Sefydliad Cymunedol Cymru, mae Touch Trust wedi gallu cynnig gwasanaethau i blant a phobl ifanc ar ddydd Sadwrn ddwywaith y mis.

Drwy gydol y pandemig, mae’r sesiynau yma wedi parhau i gael eu cynnal yn rhithiol, dros Zoom. Diolch i’n cyllidwyr, mae ein pobl ifanc wedi gallu cael sesiynau hwyliog sy’n defnyddio themâu, sesiynau Touch Trust traddodiadol a phartïon grŵp drwy alw heibio.

Mae ein sesiynau Sadwrn yn para rhwng 30 a 45 munud ac yn canolbwyntio ar hyrwyddo lles a hyder ymysg y bobl ifanc sy’n defnyddio ein gwasanaethau.

“Fe gawson ni gymaint o hwyl! Roedd L yn chwerthin drwy gydol y sesiwn! Roedden ni wrth ein boddau. Diolch yn fawr i’r holl staff am yr holl sesiynau anhygoel rydyn ni wedi’u cael hyd yma…maen nhw wedi bod yn uchafbwynt eleni, ac rydyn ni’n hynod ddiolchgar eu bod nhw’n codi ein calonnau ni, bob amser.” – Rhiant sy’n dod yn rheolaidd i’n sesiynau rhithiol gyda’i merch.

Os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu rhagor am ein sesiynau i bobl o dan 18 oed, defnyddiwch y ffurflen ar y dudalen gyswllt i ofyn am ragor o wybodaeth.

Y prosiect diweddaraf i Touch Trust ei gynnal yw prosiect mewn partneriaeth â dau fardd o Lenyddiaeth Cymru. Yn ystod y prosiect, mae gwesteion wedi cael cyfle i gymryd rhan mewn cyfres o chwe sesiwn yn seiliedig ar y tywydd.

Yn ystod y gwaith o archwilio’r gwahanol fathau o dywydd, mae ein beirdd wedi creu gwaith sy’n adlewyrchu egni, geiriau, symudiad a theimladau ein gwesteion.

WIND WORDS
GEIRIAU GWYNT
(For Emily, Maia, Romana, John, Nikki, Natalie, Darren, Gareth, Stephanie, Anna,
Isabella and Vikki)
Not with ink
But with our bodies
Every hand movement a metaphor
Every nod a simile smile
We are shaping sounds
Contouring feelings
Touching love,
Poems are atoms
Crashing through silent air
Drifting in the wind
Waking up our neurons
Pushing through our brain’s pathways
A muscle memoried picture
Electrifying axons
And handing on messages
Love letters
From the cerebellum
like kites flying flying
We are writing
Every cell pulsing
The careful cadence of connection
Jumping between synapses
Like disco balls
Glittering in sound and vision
Every molecule
Dancing incandescently with precision
To the beat the beat
Of syllables spilling
Verses visioning
Dreams to every day
We are writing
As birds in the sky
Freeing
Seeing
Feeling,
We are writing

 

Comisiynwyd Touch Trust gan Gyngor y Celfyddydau drwy Gronfa’r Loteri Genedlaethol i gynnal prosiect Celfyddydau Cymunedol Digidol yn ystod haf/hydref 2020 yng nghanol pandemig Covid-19. Galluogodd y prosiect ni i gefnogi a chysylltu â’n cymuned drwy weithgareddau artistig a chreadigol ar ffurf ‘chwarae’r un darn gyda’n gilydd’. Gosodwyd y prosiect i gerddoriaeth Canon gan Pachelbel fel man cychwyn i arbrofi gyda ffyrdd newydd a chreadigol o gysylltu â phobl eraill drwy ddulliau celfyddydol gwahanol.

Drwy ddefnyddio meddalwedd cyfarfod Zoom a theclynnau eraill, bu Hwyluswyr Creadigol Touch Trust o feysydd amrywiol fel cerddoriaeth, symud, dawns a ffurfiau eraill o gelfyddydau creadigol yn gweithio gyda chyfranogwyr a’u gofalwyr i gyrraedd mor eang â phosib i’n cymunedau. Cafodd y sesiynau eu creu mewn modd oedd yn galluogi ein cyfranogwyr i rannu straeon, i fod yn greadigol, i fwynhau a gwneud hynny’n ddiogel. Mae ein holl gyfranogwyr wedi gwneud cyfraniadau sylweddol i’r darn terfynol, ac mae modd ei weld isod.

Mae’r fideo isod yn dangos ein prosiect celfyddydau digidol diweddar, a gefnogwyd gan Gyngor y Celfyddydau: