Skip to main content

Dilys Price OBE, M.Ed, B.Ed, Cymrawd Anrhydeddus, Prifysgol Met Caerdydd.

 

“Rwy’n falch iawn o fod wedi gallu sicrhau hawlfraint a thrwyddedu’r rhaglen gyda’r bwriad o’i chynnig i lawer mwy o bobl a allai fanteisio ar rym a phrydferthwch unigryw’r rhaglen. Rydw i am gyrraedd yr holl fyd!” – Dilys Price OBE.

Sefydlodd Dilys Price Touch Trust yn 1996 a daeth yn elusen gofrestredig yn 1998.

Roedd Dilys yn fenyw ysbrydoledig; galluogodd ei gweledigaeth a’i hysgogiad i lawer o bobl oedd ag anghenion cymhleth fwynhau a bod yn rhan o brosiectau a gweithgareddau creadigol. Roedd rhannu ein llwyddiannau gyda’r byd bob amser yn bwysig i Dilys. Yn 1986, dechreuodd barasiwtio, a llwyddodd i gyflawni dros 1,130 o hediadau unigol ledled y byd. Helpodd ei hediadau i godi miloedd o bunnoedd ar gyfer y gwahanol elusennau roedd hi’n eu cefnogi.

Yn 2003, derbyniodd Dilys OBE am ei gwasanaethau i bobl ag anghenion arbennig. Cafodd ei hanrhydeddu am ei gwaith yng ngwobrau Pride of Britain yn 2017, ac yn 2018 cafodd ei chynnwys gan Rwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru ymysg 50 o fenywod byw oedd wedi dylanwadu ar fywyd Cymru. Dyfarnwyd hi’n gymrawd anrhydeddus ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ym mis Gorffennaf 2018 yn ogystal â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd.

Llwyddiannau ac anrhydeddau Dilys:

  • Sylfaenydd a Chyfarwyddwr wedi ymddeol Elusen Touch Trust
  • ​OBE am Wasanaethau i Anghenion Arbennig ac Addysg yn 2002
  • Cymrawd Anrhydeddus Prifysgol Metropolitan Caerdydd 2011
  • Gwobr Ysbrydoli Cymru am Wasanaethau i Gelfyddyd yn 2012
  • Gwobr Cyflawniad Oes – Gwobrau Amrywiaeth Cenedlaethol 2014
  • Gwobr Cyflawniad Oes – Gwobrau Gofal Cymru 2014
  • Deiliad Record y Byd Guinness 2013 – Y Fenyw Hynaf yn y Byd i wneud Naid Nenblymio
  • ​Gwobr Old & Bold gan Glwb Aero Brenhinol Prydain Fawr yn 2015
  • ​Uwch Ddarlithydd Addysg Gorfforol, Dawns ac Anghenion Arbennig

Cyflwyniad TEDx Caerdydd Dilys – 2017:

 

Rhagor o wybodaeth

I gael rhagor o wybodaeth am Dilys Price a’i gwaith, ewch i’w gwefan.

Rhagor o wybodaeth