Skip to main content

Helo, Touch Trust ydyn ni

Elusen gelfyddydol gynhwysol sy’n darparu sesiynau symud creadigol i oedolion a phlant ag amrywiaeth o anghenion amlsynhwyraidd.

Mae pob sesiwn Touch Trust yn unigryw ac wedi’i saernïo’n ofalus, gan barchu anghenion a dewisiadau unigol ein gwesteion.  Gall ein sesiynau gynnwys technegau anadlu rhythmig, tylino, cerddoriaeth, dawns ac ymlacio. Credwn y gall pawb gymryd rhan a, gyda’n cymorth ni, phrofi creadigrwydd, cyfeillgarwch a llawenydd y dychymyg.

Rydym wedi ein lleoli y tu mewn i adeilad eiconig Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd, gyda’n hystafelloedd synhwyraidd pwrpasol ein hunain ac offer codi.

Sut gallwn ni eich helpu chi?

Yma am y tro cyntaf? Mae’n wych cwrdd â chi! Efallai yr hoffech ragor o wybodaeth am ein gwasanaethau,  angen dod o hyd i ni neu’n chwilfrydig i wybod mwy.

Yn ein hadnabod ni’n barod? Croeso nôl! Eisiau gwybod y Newyddion diweddaraf? Neu efallai yr hoffech ein Cefnogi Ni.

Angen siarad? Dyma sut i Gysylltu â Ni.