Hyfforddiant a Gweithdai
Rhannu ein gwaith arloesol gyda sefydliadau eraill trwy Gymru a’r DU yw rhan o genhadaeth Touch Trust i greu cymdeithas gynhwysol i bawb , trwy fynegiant creadigol a lles.
Cynigiwn ddwy raglen hyfforddiant achrededig ar gyfer grwpiau ac unigolion, ein cwrs rhagarweiniol undydd `Cyfathrebu Trwy Gyffwrdd’ , a’n cwrs hyfforddiant llawn blwyddyn gyfan `Hyfforddiant Touch Trust’
Cyfathrebu Trwy Gyffwrdd – Cwrs Rhagarweiniol Undydd.
Cyfathrebu Trwy Gyffwrdd yw ein cwrs undydd achrededig sy’n cynnwys rhagarweiniad i Touch Trust a’r technegau ddefnyddiwn i gyfathrebu ac adeiladau ymddiried. Fe fyddwch yn derbyn Cofnod Cyrhaeddiad oddi wrth Agored Cymru pan fyddwch wedi cwblhau’r cwrs. Cynhaliwn y cwrs yn Touch Trust trwy’r flwyddyn, cysylltwch â’r swyddfa , os gwelwch yn dda, ar 029 20 635 660 neu info@touchtrust.co.uk i dderbyn gwybodaeth am y cwrs nesaf. Cynigiwn y cwrs hwn hefyd heb achrediad os nad oes mo’i angen . Cynhaliwn y cwrs hwn hefyd fel sesiwn estyn allan, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda ar gyfer unrhyw ymholiad neu i neilltuo lle.
Pris:
- Unigolyn Achrededig - £120
- Unigolyn heb Achrediad - £120
- Grŵp Achrededig (hyd at 20 dysgwr) - £1600
- Grŵp heb Achrediad (hyd at 20 dysgwr) - £1600
Hyfforddiant Touch Trust – Cwrs Llawn Blwyddyn
Cynllunnir Cwrs Hyfforddiant Touch Trust ar gyfer aelodau o staff ysgolion arbennig, tai cymunedol, canolfannau dydd a sefydliadau eraill hoffai arwain sesiynau Touch Trust o fewn eu sefydliadau eu hunain. Mae ar gael hefyd i unigolion sydd â diddordeb a brwdfrydedd mewn anabledd.
Mae’r cwrs hyfforddiant yn addysgu Rhaglen Symud Creadigol llawn Touch Trust i ddysgwyr, ynghyd â’r technegau sydd eu hangen i arwain sesiynau ar gyfer gwesteion a’u partneriaid.
Yn dilyn cwblhau’r cwrs hyfforddiant yn llwyddiannus , rhaid i bob Arweinydd Sesiwn sydd wedi eu hyfforddi, ymuno â’n Cynllun Aelod Ddarparwr er mwyn arwain sesiynau. Gwneir hyn fel arfer gan weithfan yr Arweinydd Sesiwn a hyfforddwyd, er y gall unigolion wneud cais i fod yn Ganolfan Aelod Ddarparwr ar eu pennau eu hunan.
Caiff y cwrs hyfforddiant ei achredu gan Agored Cymru, bydd dysgwyr yn ennill Lefel 2 , 3 credyd a Lefel 3, 6 credyd cofnod cyrhaeddiad.
Cliciwch yma i lawr lwytho Prosbectws Hyfforddiant Touch Trust am wybodaeth lawn. Ar gyfer unrhyw ymholiad arall cysylltwch â ni, os gwelwch yn dda, ar 029 20 635 660 neu info@touchtrust.co.uk
Hear Us!
@MinutemanWales thank you. Lovely to see this tweet in the 'Connect' tab. Dilys will agree, undoubtedly. How're you today? #Smiles 2 weeks ago
Sign Up!
To be up to date to all our events, news and general amazingness, fill your email address below to receive a nifty monthly newsletter:
