Datganiad Bwriad Touch Trust

 

“Eiriol dros ddatblygu cymuned gynhwysol trwy ddarparu cyfleoedd mewn symud creadigol i’r bobl hynny sy’n fynych heb fynediad i’r Celfyddydau.”  

“Datblygu a hyrwyddo dysgu gydol oes, addysg a hunanddatblygiad o fewn amgylchedd sy’n greadigol ac sy’n meithrin.”

“Hyfforddiant, datblygiad, ymchwil a gweithgaredd estyn allan mewn rhaglenni symud creadigol wedi eu haddasu ar gyfer unigolion ag awtistiaeth, anableddau dwys a lluosog ac ymddygiad heriol”

PWY  YDYN  NI

Y SYLFAENYDD GYFARWYDDWR

NODAU

AMCANION

STAFF


 

PWY  YDYN  NI 

Mae Touch Trust yn elusen arloesol a sefydlwyd gan y Sylfaenydd, Dilys Price OBE ym mis Awst 1997. Mae’n ymateb i’r angen am gyfleoedd creadigol ac addysgiadol mewn symud yn seiliedig ar gyffwrdd,  ar gyfer pobl ag anableddau dwys a lluosog.

.

i ben y dudalen


 

Y SYLFAENYDD-GYFARWYDDWR

 Dilys Price  OBE, B.Ed (Anrh.), M.Ed.Dilys Price Cydymaith, Coleg Iachau; Gild Celfyddyd Symud Laban; Tystysgrif Athrawon.

Bu Dilys Price yn Uwch Ddarlithydd yn Sefydliad Prifysgol Cymru, Caerdydd, ers 1960.

Bu’n gweithio ar Gyrsiau Gradd Astudiaethau Symud Dynol ac yn gyfrifol am Astudiaethau Dawns.

Hi oedd arloesydd y cyrsiau Addysg Gorfforol Arbennig Prydeinig cyntaf a bu’n hyfforddi athrawon yn y maes hwn ledled y Deyrnas Unedig.

Bu hefyd yn darlithio yn yr Unol Daleithiau; yng Nghymru roedd yn rhan o dîm a adeiladodd  ac a sefydlodd Ganolfan Chwaraeon i’r Anabl, Cymru.  

Yng Ngorffennaf 2003 dyfarnwyd yr OBE i Dilys am Wasanaethu’r Anabl.

Mae ei phrofiad a’i brwdfrydedd bellach wedi helpu i greu
Elusen Touch Trust, er mwyn cyfoethogi bywydau unigolion ag anableddau.

 

i ben y dudalen


NODAU

  • Galluogi pawb i wella ansawdd eu bywydau trwy gyswllt â’r mudiad symud creadigol a dawns unigryw, Touch Trust

  • Hyrwyddo Touch Trust ymhlith cyrff addysgol, iechyd a gofal cymdeithasol, y celfyddydau ac artistiaid unigol ledled Cymru.

  • Darparu rhaglenni hyfforddi yn Touch Trust ar gyfer gofalwyr a phobl broffesiynol berthnasol.

  • Eiriol dros gydraddoldeb i’r anabl trwy weithio mewn partneriaeth â thenantiaid o fyd y Celfyddydau yng Nghanolfan y Mileniwm yn ogystal â phobl eraill yn y celfyddydau.

 

i ben y dudalen


AMCANION

  • Darparu gwaith estyn allan a rhaglenni hyfforddi o fewn lleoliadau addysgol a chymunedol.

  • Rhwydweithio ymhlith ymarferwyr dawns a’r celfyddydau, cyrff dawnsio i’r anabl ac artistiaid annibynnol i hybu “arfer gorau” bob amser.

  • Datblygu prosiectau â themâu mewn cydweithrediad  â chyrff dawns a chelfyddydau ar gyfer yr anabl ac artistiaid annibynnol.

  • Datblygu cyfleoedd addysgol ac ymchwil.

  • Sefydlu Coleg Touch Trust Cymru fel rhan o Raglen a’r Celfyddydau Touch Trust ar gyfer disgyblion 18 oed ag awtistiaeth ac anableddau dwys a lluosog sy’n gadael yr ysgol; gwneir hyn mewn cydweithrediad â phobl broffesiynol a chyrff ym myd addysg a’r celfyddydau.

i ben y dudalen


STAFF

Cyfarwyddwraig
Dilys Price OBE

Cydlynydd Gweithredol
Debbie Court

Cydlynydd Datblygu Prosiectau
Charlotte Aubrey

Uwch Arweinydd Sesiwn Symudiadau Creadigol
David Morris

Cydlynydd Datblygu Gwaith Ymchwil
Josephine Lay

Rheolwr Ariannol
Gerry Taylor

Cydlynydd Ariannol a Chyfieithydd
Rhun Jones

Arweinwyr Sesiynau
David Morris
Charlotte Aubrey
Josephine Lay
Sue Gilby (Quality Control)
Hiroko Uenishi
Angela Revers
Yvette Halfhide
Claudia Mollzahn
Emily Wright


Touch Trust Cyf
Canolfan Mileniwm Cymru
Plas Bute
Bae Caerdydd
CaerdyddCF10 5AL
Cymru, DU

Ffôn: 029 2063 5660
Facs: 029 2063 5661
E-bost: info@touchtrust.co.uk
Wefan: www.touchtrust.co.uk

i ben y dudalen


© Hawlfraint Touch Trust - Canolfan Mileniwm Cymru
Plas Bute, Bae Caerdydd - Cymru DU CF10 5AL
Rhif Elusen Cofrestredig 1078995
www.touchtrust.co.uk - info@touchtrust.co.uk