Amdanom Ni
Mae Touch Trust yn elusen arloesol sy’n cynnig rhaglenni symud ar gyfer unigolion gydag anableddau dysgu, y rhai a effeithir gan anhwylder sbectrwm awtistiaeth (ADA), anghenion cymhleth, ymddygiad sy’n herio, a grwpiau bregus eraill yn y gymuned.
Amcanwn i gynorthwyo hunan-ddatblygiad a dysgu gydol oes gweithredol o fewn amgylchedd cymdeithasol, creadigol a chynhaliol.
Hybwn ddatblygu cymdeithas gynhwysol trwy ddarparu cyfleoedd symud creadigol ar gyfer y rhai hynny sydd ar eu pen eu hun ac yn unig ac yn aml gaiff wrthod mynediad i gymdeithas a’r celfyddydau therapiwtig oherwydd eu hanabledd ymddangosiadol.
Wrth ddathlu amrywiaeth ac felly dathlu integreiddio cymunedau’r anabl a’r rhai nad ydynt yn anabl o fewn ein cyfleusterau cynhwysol mawreddog man eithaf y grefft, mae Touch Trust yn fodel ar gyfer cymuned yn yr unfed ganrif ar hugain.
Mae Touch Trust wedi ymrwymo i’r model cymdeithasol o anabledd. Mae’n holistig ac yn rhoi gwerth ar fynegiant personol, cydberthnasau a hapusrwydd. Gwelwn bob person fel person cyflawn llawn teimlad, llawn dyhead a defnyddiwn y synhwyrau i gyd i sefydlu synnwyr o werth a mwynhad. Trwy gyffwrdd adeiladwn ymlacio, cyfathrebu cadarnhaol, empathi a lles - rhinweddau hanfodol i bob bod dynol i deimlo'n gwbl fodlon.
Mae’r athroniaeth holistig hefyd yn adeiladu bywyd cadarnhaol i’r person sydd ag anabledd dysgu, ond hefyd i’w gylch o deulu.
Sefydlwyd Touch Trust yn 1996 a daeth yn elusen gofrestredig yn 2000. Arloesodd ei sylfaenydd, Dilys Price OBE, arbenigwraig mewn celfyddyd symud a dawns a ddysgwyd gan Rudolph Laban, raglen Touch Trust er mwyn mynd i’r afael â mater gwahaniaethu ac anghydraddoldeb pobl sydd ar eu pen eu hun ac wedi eu hamddifadu o hawliau dynol a’r pethau da mewn cymdeithas oherwydd eu gwahaniaethau.
Trwy ardal mynegiant yn y celfyddydau mae Touch Trust yn taclo gwahaniaethu. Mae Touch Trust hefyd yn canolbwyntio ar yr oedolion a’r plant hynny gyda’r anableddau mwyaf dwys, ond mae hefyd yn ymwneud â phob math arall o wahaniaethu ac anfantais.
Hear Us!
@MinutemanWales thank you. Lovely to see this tweet in the 'Connect' tab. Dilys will agree, undoubtedly. How're you today? #Smiles 2 weeks ago
Sign Up!
To be up to date to all our events, news and general amazingness, fill your email address below to receive a nifty monthly newsletter:
